We are excited to announce the arrival of four new computers and a printer at the BAME Mental Health Support Hub. This vital addition, funded by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund and supported by Swansea Council, marks a significant step in improving our capacity to support participants and deliver vital services.
These resources will also play a key role at the upcoming Pathways to Work event, scheduled for February 7th, 2025, from 10:00 AM to 2:00 PM at Brangwyn Hall. This free event aims to connect individuals with local employers, training providers, and employment services offering jobs, internships, work placements, and meaningful volunteer opportunities.
The new IT equipment will be used to:
1. Support Participants: Enabling one-on-one and group sessions, participants can now access online resources, update CVs, apply for jobs, and complete training modules with greater ease.
2. Enhance Event Delivery: At the Pathways to Work event, participants can benefit from on-the-spot access to tools and resources, streamlining job applications and learning opportunities.
3. Improve Drop-in Services: The additional computers ensure timely and efficient support for participants during busy drop-in hours, even without prior appointments.
4. Boost Administrative Efficiency: The new technology will empower staff, volunteers, and participants to make the most of the Hub’s facilities. Staff and volunteers can better manage essential tasks such as event coordination, maintaining records, and tracking participant progress. Participants, in turn, will have improved access to tools and resources, ensuring they can complete tasks such as printing documents, scanning forms, and applying for jobs with ease. This synergy will create a more efficient and welcoming environment for everyone using the Hub.
Participants and staff are looking forward to making the most of this new technology.
Rotimi, a regular at the Hub, shared his anticipation:
“I can’t wait to use the new printer and computers. Having access to tools like this will make it so much easier for me to print, scan, and update important documents, whether it’s for job applications or personal needs. It’s exciting to see how much of a difference this will make.”
Dorothy Osio, Participant Support Officer, added:“These new computers will be such a boost for both participants and our team. I’m especially looking forward to seeing how they help during our drop-in sessions, where we often need reliable equipment to support multiple people at once. They’ll make everything run smoother and allow us to provide even better support.”
This initiative, alongside the Pathways to Work event at Brangwyn Hall is free for all attendees and organisations, thanks to the support of Swansea Council and funding from the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund.
Please join us on February 7th at Brangwyn Hall to explore new opportunities, connect with employers, and take steps toward a brighter future.
Please see link for more event details.
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod pedwar cyfrifiadur newydd ac argraffydd bellach ar gael yn yr Hwb Cefnogi Iechyd Meddwl Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Mae'r ychwanegiad hanfodol hwn, a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, yn nodi cam pwysig tuag at wella'n gallu i gefnogi cyfranogwyr a chyflwyno gwasanaethau hanfodol.
Bydd yr adnoddau hyn hefyd yn chwarae rôl allweddol yn y digwyddiad Llwybrau at Waith sydd ar ddod, a fydd yn cael ei gynnal ar 7 Chwefror 2025 rhwng 10:00 a 14:00 yn Neuadd Brangwyn. Mae'r digwyddiad am ddim hwn yn ceisio rhoi unigolion mewn cysylltiad â chyflogwyr lleol, darparwyr hyfforddiant a gwasanaethau cyflogaeth sy'n cynnig swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleodd gwirfoddoli ystyrlon.
Bydd y cyfarpar TG newydd yn cael ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
Cefnogi Cyfranogwyr: Galluogi sesiynau un i un a sesiynau grŵp, a gall cyfranogwyr bellach gael mynediad at adnoddau ar-lein, diweddaru eu CVau, cyflwyno ceisiadau ar gyfer swyddi a chwblhau modiwlau hyfforddiant yn haws.
Gwella'r ffordd y Cyflwynir Gwasanaethau: Yn y digwyddiad Llwybrau at Waith, gall cyfranogwyr elwa o fynediad at offer ac adnoddau yn y fan a'r lle, gan symleiddio’r broses o gyflwyno ceisiadau ar gyfer swyddi a dod o hyd i gyfleoedd dysgu.
Gwella Gwasanaethau Galw Heibio: Mae'r cyfrifiaduron ychwanegol yn sicrhau bod cymorth effeithlon ar gael yn brydlon i gyfranogwyr yn ystod oriau galw heibio prysur, hyd yn oed os na threfnwyd apwyntiad ymlaen llaw.
Rhoi Hwb i Effeithlonrwydd Gweinyddol: Bydd y dechnoleg newydd yn grymuso staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr i fanteisio i'r eithaf ar gyfleusterau'r Hwb. Gall staff a gwirfoddolwyr reoli tasgau hanfodol yn well, fel cydlynu digwyddiadau, cynnal cofnodion ac olrhain cynnydd cyfranogwyr. Gall cyfranogwyr gael mynediad at offer ac adnoddau yn well, gan sicrhau y gallant gwblhau tasgau fel argraffu dogfennau, sganio ffurflenni a chyflwyno ceisiadau am swyddi yn hawdd. Bydd y synergedd hwn yn creu amgylchedd mwy effeithlon a chroesawgar i bawb sy'n defnyddio'r Hwb.
Mae cyfranogwyr a staff yn edrych ymlaen at wneud yn fawr o'r dechnoleg newydd hon.
Meddai Rotimi, sy'n defnyddio'r Hwb yn rheolaidd,
"Alla i ddim aros i ddefnyddio'r argraffydd a'r cyfrifiaduron newydd. Bydd cael mynediad at gyfarpar fel hwn yn fy helpu i'n fawr i argraffu, sganio a diweddaru dogfennau pwysig at ddibenion cyflwyno ceisiadau am swyddi ac at ddibenion personol. Rwy'n gyffrous i weld y gwahaniaeth y bydd y cyfarpar newydd hwn yn ei wneud."
Ychwanegodd Dorothy Osio, Swyddog Cefnogi Cyfranogwyr,"Bydd y cyfrifiaduron hyn yn rhoi hwb mawr i gyfranogwyr a'n tîm. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y byddant yn helpu yn ystod ein sesiynau galw heibio, lle mae angen cyfarpar dibynadwy arnom yn aml er mwyn cefnogi sawl person ar unwaith. Bydd y broses yn well o ganlyniad, a byddwn yn gallu cefnogi cyfranogwyr hyd yn oed yn well.”
Mae'r fenter hon, ynghyd â'r digwyddiad Llwybrau at Waith yn Neuadd Brangwyn, am ddim i'r holl gyfranogwyr a sefydliadau, diolch i gefnogaeth Cyngor Abertawe a chyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Ymunwch â ni ar 7 Chwefror yn Neuadd Brangwyn i archwilio cyfleoedd newydd, cysylltu â chyflogwyr, a chymryd camau tuag at ddyfodol mwy disglair.
Gweler y ddolen am ragor o fanylion am y digwyddiad.
Comments